Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


Astudiaeth o Dirwedd Hanesyddol Gwastadeddau Gwent


  • Y Dirwedd Hanesyddol

    Mae'r dirwedd hanesyddol yn cynnwys pob agwedd ar ymgais dyn i ymelwa ar amgylchedd arbennig sy'n bodoli ac sy'n cyfrannu at ei chymeriad heddiw. Mae'n bwysig pwysleisio bod i'r safleoedd unigol neu'r nodweddion tirwedd hanesyddol, er eu bod yn bwysig ynddynt eu hunain, fwy o arwyddocâd o'u hystyried yn y dirwedd ehangach gyda'u nodweddion presennol a'u nodweddion cysylltiedig; mae'r dirwedd yn ei chyfanrwydd yn bwysicach na'r nodweddion unigol.

    Mae'r Gwastadeddau hefyd yn frith o gloddwaith sy'n cadw elfennau o dirwedd ganoloesol a thirweddau wedi'r cyfnod hwnnw. Mae'r rhain yn cynnwys sawl fferm ffosedig (e.e. ardal 8), morgloddiau a chloddiau glannau ffosydd a chefnau ar wyneb caeau a grëwyd i wella draenio. Mae cloddwaith bach, fel y cloddiau yn y categori olaf, yn fregus iawn a gellir eu dinistrio wrth aredig cae.

    Mae'r Gwastadeddau yn bwysig hefyd am eu porfa welltog iawn ac mae ardaloedd eang wedi'u dosbarthu yn dir amaeth gradd 3b. Fel man agored ger trefi mawr, maent yn adnodd hamdden na wneir digon o ddefnydd ohonynt.

  • Archeoleg Gladdedig

    Yn ôl y gwaith diweddar mae'r Gwastadeddau yn cynnwys cyfoeth o archeoleg gladdedig, o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, yn yr ardal rynglanw ac yn yr ardal fewndirol y tu mewn i'r morglawdd. Dros y rhan fwyaf o'r Gwastadeddau, gorwedda tirweddau cynhanes a Rhufeinig o dan lifwaddodion o gyfnod diweddarach. Oherwydd dyfnder y llifwaddodion hyn, hyd yn oed drwy ddefnyddio'r dulliau diweddaraf o chwilio heb ymyrryd â'r tir ni ellir adnabod safleoedd o'r fath heb gloddio. O ganlyniad mae'n debygol iawn y cânt eu colli drwy anwybodaeth. Fodd bynnag, mae'r haen hon o lifwaddod, a'r amodau dwrllawn a grëwyd o ganlyniad, yn golygu bod gwaddodion archeolegol wedi'u cadw mewn cyflwr ardderchog. Mae perygl y bydd yr amgylchiadau hyn yn newid os ceisir amharu ar y llifwaddod neu ostwng y lefel trwythiad.

  • Ffurfiant y Dirwedd

    Ceir hanes manwl o Wastadeddau Gwent yn y llyfr "The Gwent Levels - The Evolution of a Wetland Landscape" (Rippon 1996). Nodir isod grynodeb sylfaenol yn seiliedig ar y gwaith hwnnw.

    Mae Gwastadeddau Gwent yn cynnwys hyd at oddeutu 10m o lifwaddod a mawn mewn haenau. Yn yr haenau hyn ceir llawer o olion o ymgais dyn i ymelwa ar amgylchedd y gwlyptir o'r cyfnod cynhanes ymlaen. Yn y gwaddodion mawn yn arbennig, sy'n cadw strwythurau pren, ceir cyfoeth o olion yn ogystal â chofnod o'r newidiadau yn yr amgylchedd dros filoedd o flynyddoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dangosir bod tirweddau cyfan o gyfnod cynhanes wedi'u claddu o dan wyneb y Gwastadeddau.

    Yn ôl y dosbarthiad o ddarganfyddiadau archeolegol pwysig mae'r nifer fwyaf i'w cael yn yr ardal rynglanw, gan mai yn yr ardal honno y mae'r llifwaddod sy'n gorwedd dros dirweddau cynhanes a Rhufeinig wedi erydu. Fel yr haen o fawn ei hun, mae'n debyg bod y crynhoad hwn o safleoedd archeolegol yn parhau ar y mewndir, ond nid ydynt wedi'u darganfod eto. Ceir crynhoad arall o safleoedd ar ymyl y ffen, lle mae'r olion archeolegol wedi'u hamlygu yn sgîl cryn waith datblygu.

    Drwy waith cloddio archeolegol gofalus darganfuwyd olion troed dynol a gwersylloedd Mesolithig, ynghyd â thai pren a llwybrau o'r Oes Efydd/Oes Haearn, oll wedi'u cadw'n dda. (ee ardal 6).

    Ar ddiwedd yr Oes Haearn (oddeutu 2,000 o flynyddoedd yn ôl), morfa heli oedd Gwastadeddau Gwent y gorlifai'r llanw drosti.

    Yn ystod y cyfnod Rhufeinig (oddeutu 1,750 o flynyddoedd yn ôl) caewyd y Gwastadeddau gan y llengwyr a oedd wedi'u lleoli yng Nghaerllion, drwy godi morglawdd a thrwy hynny ataliwyd y môr rhag boddi'r tir mwyach. Draeniwyd y tir ganddynt drwy gloddio ffosydd ac mae'n debygol iddynt ddefnyddio'r dolydd gwelltog i bori eu ceffylau (awgrymwyd hyn gan y nifer fawr o esgyrn ceffylau y cafwyd hyd iddynt drwy gloddio anheddiad Rhufeinig yng Nglanfa Fawr Rhymni). Mae rhan helaeth o'r dirwedd Rufeinig honno yn dal i gael ei defnyddio yn ardal Llanbedr (ardaloedd cymeriad 16 a 17) ac mae'n unigryw ym Mhrydain, os nad gogledd-orllewin Ewrop.

    Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig (tua 1530 o flynyddoedd yn ôl) methodd yr amddiffynfeydd morol, ac aeth rhannau o Wynllwg ynghyd ag ardal gyfan Caldicot yn forfa heli unwaith eto, a chladdwyd wyneb y tir o'r cyfnod Rhufeinig o dan lifwaddod.

    Ar ôl y goncwest Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg daeth pobl i fyw yn yr ardal eto. Yn ystod y cyfnod uwch ganoloesol hwn (tua 1070-tua 1350), ailadeiladwyd morgloddiau a sefydlwyd system ddraenio newydd. Nid yw safle'r morglawdd gwreiddiol yn hysbys, am iddo erydu'n ddiweddarach. Lle roedd y dirwedd Rufeinig wedi goroesi, y cyfan yr oedd angen ei wneud oedd adfer ac ailsefydlu. Dros ganrifoedd lawer, cloddiwyd rhwydwaith newydd o ffosydd draenio, nes ffurfio'r patrwm presennol; y cyfnod pwysig diwethaf o ran creu tirwedd oedd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pryd y crëwyd caeau newydd yn ardal Broadmead o Redwick a Rhostir Caldicot.

    Sefydlwyd aneddiadau ar dir uwch yr arfordir yn bennaf, gyda thir amaeth a dolydd o boptu iddynt. Roedd y Priordy yn Allteuryn yn arbennig o bwysig o ran creu tirweddau yr As Fach, Allteuryn a Whitson a Porton o bosibl (ardaloedd 1, 3 a 4).

    Caewyd rhai caeau a grëwyd yn ystod y cyfnod hwn gan gloddiau, fel y gwelwn heddiw. Roedd caeau canoloesol eraill yn "agored", gyda llethrau glaswelltog bach yn gwahanu'r lleiniau (a ddynodir ar fapiau cynnar megis mapiau Comisiynwyr y Carthffosydd 1830/1831: GCRO D.1365/2). Byddai'r lleiniau hyn yn cael eu dyrannu ymhlith y pentrefwyr bob blwyddyn, ond yn y gaeaf roedd eu da byw yn rhydd i bori oddi ar y "caeau agored", heb na ffensys, na gwrychoedd na chloddiau i'w hatal.

    Roedd y cefnffen is yn borfa tir comin agored, nad oedd wedi'i draenio ac felly dim ond yn ystod misoedd yr haf yr oedd ar gael ar gyfer pori (ee. ardal 9). Gelwid ardaloedd o'r fath yn "rhostiroedd". Dros amser, wrth i'r boblogaeth gynyddu, cafodd rhannau o'r cefnffen eu cau a'u draenio (ee ardal 9). Rhoddwyd ystadau mawr i Abaty Tyndyrn yn yr ardaloedd hyn a bu'n flaenllaw yn y gwaith o "wella'r tir" (ardaloedd 8 a 10).

    Yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr (tua 1350-tua 1536), bu aflonyddwch cymdeithasol mawr ac wedi'r pla bu gostyngiad yn y boblogaeth. Arweiniodd dirywiad hinsoddol at erydu arfordirol. Yn y bymthegfed ganrif, bu'n rhaid gosod y morglawdd yn nes at yr arfordir, sy'n enghraifft gynnar o "gilio rheoledig". Gellir gweld tystiolaeth o hyn ar hyd yr arfordir, am fod y morglawdd yn rhedeg ar letraws mewn caeau cynharach (ee. ardal 4); mewn mannau gellir olrhain llinellau cloddiau caeau presennol oddi ar yr arfordir yn yr ardal rynglanw heddiw.

    Rhannwyd y rhan fwyaf o'r Gwastadeddau yn gaeau erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond dim ond yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg y caewyd y rhannau olaf o dir comin, drwy Ddeddf Seneddol (ee Rhostir Caldicot, ardal 11). Yn y canrifoedd cyn hynny caewyd llawer o'r "caeau agored" hefyd, ond dim ond yn 1850 y caewyd y cae agored pwysicaf oll, sef "Broadmead" yn Redwick a hynny eto drwy Ddeddf Seneddol (ardal 7). Yn ystod y cyfnod hwn hefyd adferwyd y morfeydd heli a oedd wedi datblygu o amgylch moryd y prif afonydd llanw.

  • Teipoleg Tirwedd

    Mae amryw o brosesau wedi arwain at greu'r "dirwedd hanesyddol", gan roi bod i ardaloedd gwahanol a chanddynt eu cymeriad eu hunain. Gellir gwahaniaethu'n fras rhwng y tirweddau a grëwyd yn raddol, a'r tirweddau a ffurfiwyd mewn un cyfnod.

    Gellir galw'r math cyntaf yn "afreolaidd" ac maent yn gymhleth iawn o ran natur (ee ardaloedd cymeriad 1, 6, 15 a 18). Maent yn cynnwys caeau bach o siâp afreolaidd, yn aml yn ymgorffori llinellau dolennog yr hen gilfachau llanw. Ffurfiwyd y dirwedd yn raddol, rhwng yr unfed ganrif ar ddeg a'r bedwaredd ganrif ar ddeg (cyfnod "uwch ganoloesol"). Mae'r ffyrdd yn droellog ac yn llydan, yn aml gyda digonedd o wastraff ymyl ffordd; roedd y "ffyrdd gwartheg" hyn yn hollbwysig i symud da byw o'r hafoty i'r hendre. Roedd yr aneddiadau yn wasgaredig, gydag ambell bentrefan, fferm a bwthyn anghysbell yma a thraw. Roedd sawl comin a ddaeth yn ganolbwynt i aneddiadau ee Broadstreet yn yr As Fach; Whitson a Llanbedr).

    Symudodd pobl i fyw ar y tir uwch tua'r arfordir i ddechrau. Dim ond yn ddiweddarach, wrth i'r boblogaeth gynyddu, gan greu mwy o alw am dir, y cafodd y cefnffen, a orweddai ar dir is, ei ddraenio. Yn aml gellir nodi dilyniant o ardaloedd a adferwyd, wrth i gymunedau raddol ddraenio'r cefnffen. Mae i'r ardaloedd hyn dirweddau o natur "ganolradd" ar y cyfan; maent yn fwy rheolaidd o ran diwyg na'r "tirweddau afreolaidd", ond nid ydynt wedi'u cynllunio mor gaeth â'r math "rheolaidd". Nodweddir ardaloedd canolradd gan batrwm o gaeau hirsgwar a ffyrdd yn bennaf, gydag ambell ffermdy neu fwthyn yma a thraw.

    Mae'r tirweddau "rheolaidd" yn wahanol iawn. Mae eu caeau yn hirsgwar. Maent mewn blociau mawr o gaeau o faint tebyg (ee ardaloedd 11 a 21). Mae'r ffyrdd yn unionsyth ac yn gul, heb wastraff ymyl ffordd. Nid oes llawer o aneddiadau, yn bennaf am fod y tirweddau hyn ar y tir isaf. Fe'u crëwyd drwy broses adfer wahanol iawn; darnau mawr o dir yn cael eu cau'n gyflym ac ar raddfa fawr, mewn un cyfnod.

  • Rheoli Dwr a'r System Ddraenio

    Mae Gwastadeddau Gwent yn cynnwys tua 111.2 km2 o lifwaddodion morydol wedi'u hadfer rhwng Afon Elái ac Afon Gwy yn y De-ddwyrain, a adwaenir fel Gwastadeddau Gwent. Gyda'i gilydd, maent yn ffurfio gwastadedd arfordirol hyd at 6km o led, ar ymyl ochr ogleddol Moryd Hafren.

    Y ddau wastadedd mwyaf yw Gwenllwg, rhwng Afon Rhymni ac Afon Ebwy, a Caldicot, rhwng Afon Wysg a'r penrhyn o greigwely ger Sudbrook. Ceir ardaloedd llifwaddodol llai yng Ngorllewin Caerdydd, Lecwydd a Rhostir Penarth rhwng Taf ac Elái; Dwyrain Caerdydd a Rhostir Pengam rhwng Rhymni a Thaf; Gwastadedd Mendalgief rhwng Ebwy a Wysg; a Gwastadedd St Pierre a Gwastadedd Mathern sy'n gorwedd rhwng Sudbrook ac Afon Gwy.

    Gwaith dyn drwyddynt draw yw'r Gwastadeddau. Fe'u crëwyd drwy gau a draenio morfeydd heli llanw, a erys yr angen i reoli dwr yn nodwedd amlwg o'r ardal. Heb forgloddiau, byddai'r môr yn aml yn gorlifo dros y Gwastadeddau.

    Un broblem arall sy'n codi o hyd yw rheoli glawiad a dwr ffoi o'r ucheldiroedd. Ymdrinnir â'r broblem hon drwy system gymhleth o sianeli sy'n cludo dwr oddi ar wyneb y caeau ("cefnen a rhych") i mewn i gwlïau mawr ("gafaelion") a rhwydwaith o ffosydd cae. Yna mae dwr yn draenio o'r rhain i mewn i brif ddyfrffosydd a elwir yn "reens" yn Saesneg. Mae'r rhwydwaith hwn yn nodwedd allweddol o'r Gwastadeddau, o ran eu pwysigrwydd ecolegol a'r dirwedd hanesyddol.

    Sefydlwyd y dull draenio yn y Gwastadeddau gyntaf bron 1800 o flynyddoedd yn ôl. Ffurfir hierarchaeth o sianeli draenio, sydd hefyd yn sail i bwysigrwydd hanesyddol a chadwraeth natur yr ardal hon.

    O'r dechrau bu'r broses o gynnal y system hon yn ymdrech ar y cyd gan ffermwyr a'r awdurdodau. Mae'r cyntaf wedi ceisio diogelu eu bywoliaeth ac atal tir ffrwythlon rhag cael ei ddinistrio gan lifogydd. Mae'r olaf, gan ddechrau gyda'r llengoedd Rhufeinig hyd at y mynachlogydd canoloesol, arglwyddi'r Mers, Comisiynwyr y Carthffosydd, a nifer o gyrff cyfoes, wedi bod yn ceisio diogelu eu buddiannau yn y Gwastadeddau cyfan a'u cyfrifoldeb drostynt.

  • Morglawdd

    Mae'r system ddraenio gyfan yn y Gwastadeddau yn dibynnu ar y morglawdd. Yn hanesyddol, mae'r morglawdd wedi cilio, gyda'r rhan fwyaf o'r llinell heddiw yn dyddio o'r cyfnod canoloesol hwyr. Mae tua 35 km o hyd ac mae'n glytwaith o wahanol ddarnau o ran arddull a dyddiad sydd wedi cael eu gwella a'u newid yn raddol rhwng 1954 a 1974.

    Fodd bynnag, yn dilyn storm arw yn 1990, profwyd yr amddiffynfeydd morol hyn i'r eithaf ac mae'r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol yn cynnig rhaglen 10 mlynedd o godi ac atgyfnerthu'r morglawdd. Efallai y bydd y gwaith hwn yn arwain at strwythur llawer mwy safonol a fydd yn cuddio'r cymhlethdodau presennol.

    Yng ngoleuni'r gwaith arfaethedig mae'r darnau byr o'r morglawdd creiriol yng Nglanfa Fawr Rhymni, Peterstone Gout ac wrth ymyl nant Collister hyd yn oed yn fwy gwerthfawr.

    Yn draddodiadol arferid pori anifeiliaid yn ystod yr haf ar y forfa heli y tu hwnt i'r morglawdd. Dim ond dau ffermwr sy'n parhau â'r arfer hwn ar Wastadedd Gwynllwg ond mae'n helpu i gadw amrywiaeth y planhigion sy'n tyfu yno.

  • Prif Ffosydd

    Mae'r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol yn gyfrifol hefyd am yr afonydd sy'n rhannu Gwastadeddau Gwent, a'r gwaith o reoli tua 64 km o'r prif ffosydd lle mae nentydd yr ucheldiroedd yn troi'n gamlesydd ar draws yr ardaloedd o dir isel a thrwy argaeau llanw i'r môr.

    Mae rhai o'r prif ffosydd hyn megis Ffos Monksditch a Ffos Mill, yn llifo rhwng cloddiau uchel lle y gwaredir y defnydd a gliriwyd o'r ffosydd o bryd i'w gilydd. Mae'r cloddwaith hwn hefyd yn nodwedd hanesyddol bwysig yn y dirwedd, na ddylid ei ddifrodi'n ddiangen. Mewn mannau (ee Monksditch ger is-orsaf Whitson) ac ym mhen gogleddol Blackwall ym Magwyr), mae i ochrau'r ffosydd wyneb o gerrig a phren, a ddylai gael eu cadw hefyd.

  • Ffosydd Llai

    Yr haen nesaf yn yr hierarchaeth o sianeli draenio yw'r oddeutu 137km o ffosydd a reolir gan Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Caldicot a Gwynllwg. Hwy yw'r ffiniau a'r fframwaith ar gyfer y rhan fwyaf o'r ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn yr adroddiad hwn.

    Mae sicrwydd y bydd y system hon yn parhau i gael ei rheoli, ond ceir sawl math o nodwedd hanesyddol yn y rhwydwaith hwn ac mae angen eu diogelu. Rheolir lefel y dwr yn y ffosydd hyn gan gist argaeau (a elwir yn "stanks" yn Saesneg) lle y gellir gosod estyll pren i godi lefel y dwr yn yr haf a'i ostwng yn y gaeaf. Erys y strwythurau hyn, a adeiledir o frics a choncrid bellach, yn nodwedd bwysig o'r Gwastadeddau ac mae angen eu cynnal a'u cadw'n briodol.

    Nodwedd bwysig arall, sydd wedi prinhau erbyn hyn yn anffodus yw "cloddiau" yr ymddengys iddynt fod yn gloddwaith isel ar ochr uwch neu ochr y môr i'r ffosydd hynny a gloddiwyd i ddraenio'r ffen. Maent yn ddiogelwch ychwanegol rhag llifogydd yn y gaeaf ar y tir mwy ffrwythlon y tu ôl iddynt.

    Nodwedd arall o'r prif ffosydd hyn yw'r llinellau o goed helyg wedi'u tocio, a blannwyd i atgyfnerthu ochrau'r ffosydd. Mae'r rhain yn rhan bwysig o'r dirwedd hanesyddol yn ogystal â bod o bwys ecolegol mawr.

  • Ffosydd Caeau

    Yr haen fwyaf o bell ffordd yn yr hierarchaeth ddraenio yw'r oddeutu 1200km o ffosydd caeau a gynhelir gan dirfeddianwyr unigol. Yma, gall y broses o glirio ffosydd a rheoli'r gwrychoedd cysylltiedig ymestyn dros gylch o 10 i 30 mlynedd.

    Mae'r ffiniau hyn yn llawer mwy tebygol o gael eu colli wrth i gaeau mwy o faint gael eu creu drwy gyfuno nifer o gaeau bach. Yn yr ardaloedd amaethyddol o Wastadedd Caldicot sy'n weddill, collwyd 18% o'r ffiniau a fodolai yn ystod 1886. Yng Ngwastadedd Gwynllwg 40% yw'r ffigur. Mae gwrychoedd yn elfen arwyddocaol o gymeriad tirwedd y Gwastadeddau. Bydd y ffordd y caiff gwrychoedd eu rheoli yn effeithio'n sylweddol ar olwg yr ardal yn ogystal â dylanwadu ar ddiddordeb cadwraeth natur. Er enghraifft, yn y ffen ar y tir isaf (ee. ardaloedd 9, 20 a 21), peth cyffredin yw gweld caeau nad oes gwrychoedd yn eu hamgáu ac sydd wedi eu nodweddu gan frwyn ac ambell helygen yma a thraw.

  • Cefnau ar Wyneb Caeau

    Yr haen isaf yn yr hierarchaeth ddraenio yw'r un fwyaf bregus oll. Mae hyn yn cynnwys "gafaelion" a "cefnen a rhych". Maent wedi creu'n fedrus drwy gloddio â llaw neu aredig, ac maent yn rhwydwaith o gwlîau draenio bas ar wyneb y cae sy'n cludo dwr ffo i'r ffosydd. Nid ydynt wedi goroesi mewn caeau sydd wedi cael eu tanddraenio a'u haredig, sef arfer sy'n dyddio o ddiwedd y 1950au ar ôl gwelliannau i'r system ddraenio.

  • Pontydd

    Er mwyn cyrraedd y Gwastadeddau defnyddid y gyrlwybrau mwy o faint, sy'n rhan o fframwaith pob ardal gymeriad. Croesai lonydd a llwybrau'r ffosydd draenio a'r ffosydd caeau ar draws lliaws o bontydd. Dichon fod rhai ohonynt wedi'u hadeiladu rai canrifoedd yn ôl, ac mae enghreifftiau ardderchog wedi goroesi ar hyd Ffos Mireland Pill (Allteuryn) a Rush Wall (Magwyr). Mae pontydd cerrig, brics, concrid a phren i gyd wedi goroesi, ond mae llawer ohonynt yn dirywio neu maent wedi dymchwel ac, o ganlyniad, mae llawer o'r rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus wedi chwalu.

  • Adeiladau sy'n Sefyll

    Mae adeiladau sy'n sefyll yn rhan o gymeriad pob ardal dirwedd. Mae'r anheddiad gwasgaredig o ffermydd anghysbell yn y rhannau arfordirol o Wynllŵg a gorllewin Caldicot (sydd i gyd yn "dirweddau afreolaidd"), yn cyferbynnu â phentref cnewyllol Redwick yn nwyrain Caldicot (ardal 5) a'r anheddiad llinellol ar hyd Tir Comin Whitson (ardal 3). Ychydig iawn o aneddiadau sydd ar y cefnffeniau (tirweddau "canolradd" a "rheolaidd"), er bod ymyl y ffen bob amser wedi bod yn lleoliad ffafriedig ar gyfer anheddu.

    Bu'r ffermdai a'r tai allan bob amser yn ganolog i economi'r ardal, ond maent dan fygythiad wrth i ddaliadau tir gael eu cyfuno. Mewn rhai achosion, gadawyd cyfadeiladau fferm yn wag gan berchenogion sefydliadol newydd.

    Bydd adolygiad o'r rhestr o adeiladau hanesyddol ar gyfer plwyfi Gwastadeddau Gwent, sydd wrthi'n cael ei gynnal gan Cadw, yn tynnu sylw ar yr adeiladau hynny sydd o ddiddordeb arbennig ac yn eu diogelu. Dim ond os parheir i ddefnyddio adeiladau traddodiadol y cedwir cymeriad y Gwastadeddau.

    Arferai fod perllan gan y mwyafrif o ffermydd, ac mae'r enghreifftiau sydd wedi goroesi yn nodwedd bwysig o'r Gwastadeddau. Am nad yw seidr yn cael ei wneud yn lleol bellach nid yw'r mwyafrif o berllannoedd yn ymarferol yn fasnachol. Fodd bynnag, ceir rhai enghreifftiau ardderchog, yn arbennig yn Allteuryn, Redwick a Magwyr.


  • Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk